Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 28 Mawrth 2012

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(57)v4

 

<AI1>

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (45 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth (45 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3. Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau (5 munud) 

 

NDM4956 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Menter a Busnes yn lle Leanne Wood (Plaid Cymru).

 

NDM4957 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Lindsay Whittle (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Leanne Wood (Plaid Cymru).

</AI3>

<AI4>

4. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Adfywio Canol Trefi (60 munud) 

 

NDM4952 Nick Ramsay (Mynwy)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Adfywio Canol Trefi a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2012.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mawrth 2012.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes

Ymateb y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

</AI4>

<AI5>

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) 

 

NDM4954 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau i sicrhau bod mwy o bwyslais yn cael ei roi ar rymuso cymunedau lleol;

 

2. Yn cydnabod y rhan y byddai rhewi’r Dreth Gyngor ledled Cymru wedi’i chwarae o ran grymuso aelwydydd yn ariannol;

 

3. Yn nodi’r rhan y byddai gwella rhyddhad ardrethi busnesau bach yn ei chwarae o ran grymuso busnesau ledled Cymru, gan ganiatáu iddynt ehangu a chyflogi staff newydd;

 

4. Yn annog llywodraeth leol i weithredu mewn ffordd sy’n dryloyw, yn agored ac yn atebol, a fydd yn annog cymunedau lleol i gymryd mwy o ran mewn democratiaeth leol;

 

5. Yn nodi y bydd ariannu ysgolion yn uniongyrchol yn eu grymuso i osod eu blaenoriaethau eu hunain; a

 

6. Yn nodi ymhellach y rhan y gall polisi cynllunio datganoledig ei chwarae o ran grymuso cymunedau.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:

 

‘ac yn galw am ystyried cyflwyno Bil Hawliau Cymunedol mewn unrhyw adolygiad er mwyn rhoi pwerau ychwanegol i gymunedau lleol yn y system gynllunio, datblygu tai ac amgylchedd lleol’

 

[os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3, 4 a 5 yn cael eu dad-ddethol]

 

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwyntiau 2, 3 a 4, rhoi’r pwyntiau canlynol yn eu lle, ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn.

 

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi 1.3 y cant yn fwy o gyllid i awdurdodau lleol nag a wnaed yn Lloegr, ac y bydd hynny’n grymuso cynghorau Cymru i rewi’r dreth gyngor, os dymunant.

 

Yn nodi darpariaethau Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, sy’n ceisio cryfhau atebolrwydd ac ymgysylltiad mewn democratiaeth leol yng Nghymru.

 

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 i’w gweld drwy’r ddolen a ganlyn: http://www.legislation.gov.uk/mwa/2011/4/contents/enacted/welsh

 

[os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael eu dad-ddethol]

 

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

‘Yn credu y byddai agwedd gynaliadwy at gadw’r dreth gyngor yn isel, a ellid ei chyflawni drwy drefniadau llywodraethu cyfrifol gan gynghorau lleol yn hytrach na ffrydiau cyllido o’r brig i lawr, yn helpu i rymuso aelwydydd ledled Cymru yn ariannol.’

 

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 2

 

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:

 

‘ond yn credu fel sail i hyn bod yn rhaid diwygio ardrethi busnes yn ehangach, gan gynnwys rhoi terfyn ar godiadau bob blwyddyn sy’n rhy uchel.’

 

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 4, ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

 

Yn credu y byddai cymunedau lleol yn cymryd mwy o ran mewn democratiaeth leol petai llywodraeth leol yn cael ei chryfhau drwy:

 

a) cyflwyno Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy mewn etholiadau lleol;

 

b) cyflwyno pwer cymhwysedd cyffredinol i rymuso cynghorau lleol;

 

c) lleihau nifer y rheolaethau o’r brig i lawr ar awdurdodau lleol, fel dyletswyddau statudol; a

 

d) archwilio’r enghreifftiau gorau a gwaethaf o lywodraeth agored a thryloyw ledled Cymru er mwyn rhannu’r arfer gorau hwn.

 

[os derbynnir gwelliant 7, bydd gwelliant 8 yn cael eu dad-ddethol]

 

Gwelliant 7 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 5

 

Gwelliant 8 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 5:

 

‘ac yn galw am adolygiad cyflawn o atebolrwydd ysgolion, gan archwilio’n benodol atebolrwydd lleol ac arweinyddiaeth briodol i gyrff llywodraethu’

 

Gwelliant 9 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 6

</AI5>

<AI6>

6. Dadl Plaid Cymru (60 munud) 

 

NDM4953 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn credu bod cynnig Llywodraeth y DU i gyflwyno cyflogau rhanbarthol i’r sector cyhoeddus yn anghyfiawn i weithwyr, yn andwyol i economi Cymru ac yn niweidiol i fusnesau.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Andrew RT Davies (Canol De Cymru)

 

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

 

1. Yn nodi bod Llywodraeth Lafur flaenorol y DU wedi cyflwyno cyflogau rhanbarthol yn y gwasanaeth llysoedd yng Nghymru; a

 

2. Yn credu y gallai sefydlu Cymru annibynnol arwain at lefelau cyflog is i weithwyr ledled Cymru, gan gynnwys y rheini yn y sector cyhoeddus, ac y byddai felly’n cael effaith debyg i gyflwyno cyflogau rhanbarthol yng Nghymru.

 

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi bod Llywodraeth flaenorol y DU wedi cyflwyno cyflogau rhanbarthol yn y gwasanaeth llysoedd.

 

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio asesiad effaith i roi hwb i’r achos dros gynnal y strwythurau cyflog presennol.

 

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cytuno â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesi a Sgiliau y byddai cyflog rhanbarthol yn hollol anghywir ac amhriodol ac y gallai arwain at ostyngiadau cyflog mewn rhannau o’r wlad lle mae incwm yn gymharol isel, ac felly’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r Ysgrifennydd Gwladol i sicrhau na chaiff cyflogau rhanbarthol eu cyflwyno.

 

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu na fyddai annibyniaeth yn galluogi Cymru i elwa o raddfeydd cyflog sector cyhoeddus DU gyfan ac y byddai hynny mewn gwirionedd yn arwain at gyflogau rhanbarthol.

</AI6>

<AI7>

Cyfnod Pleidleisio

 

</AI7>

<AI8>

</AI8>

<AI9>

7. Dadl Fer (30 munud) 

 

NDM4951 Sandy Mewies (Delyn):

 

Cyrsiau Adsefydlu Yfed/Gyrru.

 

Yr angen parhaus i sicrhau bod y cyrsiau hyn yn cael eu darparu yng Nghymru yn dilyn llwyddiant cyrsiau blaenorol i leihau cyfraddau aildroseddu.

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 24 Ebrill 2012

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>